Tuesday 16 August 2011

Llongyfarchiadau!

Heddiw yw'r diwrnod canlyniadau arholiad a dw i'n falch dweud gwnaeth pawb yn dda a rhai yn rhagorol!

Safodd naw eleni - saith yr arholiad Sylfaen a dau'r arholiad Mynediad. Pasiodd wyth - a methodd un gan flwch blewyn! Enillodd tri ohonynt ragoriaethau ar safon Sylfaen sef Claire Gaddy, Emma Loveridge a Karen Rogers a daeth Bryen Smith yn agos agos iawn at gyflawni'r un gamp. Cafodd Anita Roderick a Sarah Rose cyfansum o dros 95% yn eu harholiad Mynediad.

 Dyma'r flwyddyn diweddaf i ni gynnig arholiadau CBAC yn Basingstoke ond yn sicr bydd y llwyddiant hwn yn rhoi hwb i'r cylch siarad newydd.

5 comments: