Thursday, 5 January 2012

Tymor Llwyddiannus


Dathlodd Cymrodoriaeth Cymraeg Basingstoke yr Ŵyl Nadolig ynghyd â'i dymor llwyddiannus gyda phryd o fwyd yn nhafarn y "Coach and Horses", Rotherwick, ar y trydedd ar ddegfed o Ragfyr. Gaeth y pryd ei drefnu, gyda thema Gymraeg, gan Anwen Foy sy'n cymryd lle Gareth Thomas, fel arweinydd Cymrodoriaeth Cymraeg Basingstoke. Mae pawb yn ddiolchgar iddi hi. Mae Gareth wedi dychwelyd adref i Gymru, i Fro Morgannwg ac mae pawb yn anfon eu dymuniadau gorau. Gaeth pawb noson wych ac roedd pawb wrth eu bodd yn gwrando ar jocs a storiau doniol Ryland Lee. Diolch iddo e!
Bydd y grwp yn parhau i gwrdd yn y Flwyddyn Newydd, yn dechrau y ddegfed o Ionawr am saith o'r gloch, ystafell 606, Coleg Frenhines Mair ym Masingstoke.
Bydd croeso i aelodau newydd, dewch i'n weld ni ar y noson!
___________________________________________________
A Successful Term
Cymrodoriaeth Cymraeg Basingstoke celebrated Christmas and its successful first term with a meal at the Coach and Horses, Rotherwick on 13 December. The meal, with a Welsh theme, was arranged by Anwen Foy who has kindly taken over the leadership role from Gareth Thomas following his departure to pastures new in the Vale of Glamorgan. An excellent evening was enjoyed by all, helped along by an endless string of humorous anecdotes provided by Ryland Lee.
The group will continue to meet in the new year, starting on the 10 January at 7.00 pm, in room 606 in Queen Mary’s College, Basingstoke.
New members welcome, just turn up on the night.